Cwis Bob Dydd User Reviews

Top reviews

Doesn't work

Downloaded the new version of the app, kept getting a quota exceeded error, just updated the app and I'm now getting a network error after inputting all of my details.

Fersiwn ddiweddara

Gwarthus yw safon y fersiwn newydd. Run un teip o gwestiynnau drosodd a throsodd o fewn yr un gêm.
Diwyg newydd yn afiach I gymharu ar hên fersiwn. Cerddoriaeth annoying. Methu gweld sgor fel ag yr oedd. Llanast llwyr

Newid er gwaeth

Mae’r fersiwn newydd o Cwis Bob Dydd yn ddifrifol ym mhob ffordd posibl. Ewch nôl at y fersiwn wreiddiol wir. Mae llu o chwaraewyr yn methu â chael yr app i weithio o gwbl a mae’r rhai ohonom sydd arno yn cael ein diflasu gan yr un math o gwestiynau yn ymddangos ddwyweth/deirgwaith y dydd e.e Labrinth dair gwaith heddiw. Nid ydym yn gallu gweld faint gafodd ein cyd-gystadleuwyr allan o ddeg na faint o amser gymeron nhw. Y cwbl sydd i’w weld rwân yw cyfanswm pwyntiau yr wythnos. Diflas. Fe gollwch hanner eich chwaraewyr a mwy os bydd yn parhau fel hyn. Roedd yn hwyl o’r blaen cyn y newidiadau.
Show less

App problem

Wont work as gives error message when entering mobile number

Y chwe gwlad a Dom

Bob tymor mae’r ap yn canolbwyntio ar bwnc arbennig. Chwe gwlad tro dwetha. Radio Cymru 2 tro ma. Ma’n gwthio’r agenda yn ormodol. Propogandaidd braidd.

Hefyd, amhosib cymharu sgorau â phobl eraill gan bod pawb yn gael gwahanol gwestiynau. Sham.

Crashio

Ma’r ap yn crashio ar cwestiwn 3 a ddim yn gadael i mi barhau. Dwi’n sownd ar ôl methu ateb ac wedyn dyna ni… dim modd mynd ymhellach. 🤷🏻‍♂️

Lois

i tried to play and it didnt work so i refreshed it and the app gave me a score of 0 so annoying

Dim llyniau!!

Wrth drio cwis heddiw, doess dim llun yn dangos yn y cwestiynnau llyniau, mond y cwestiwn! (Signal wifi yn dda)

Amazing.

This app changed me. Before, I was a depressed little boy who wanted to be a YouTuber. Now, I want to be an engineer. Just spectacular. 🏴󠁧󠁢󠁳󠁣󠁴󠁿

Da, ond un gwall od

Rwy’n mwynhau’r cwis bob dydd, ond tan heno wedi cael un cwestiwn yn anghywir bob tro. Pa anifail sy’n ymddangos fwyaf? Feddyliais i mai pa anifail sy’n ymddangos fwyaf - which animal appears to be the largest. Heddiw fe roddais shot ar ateb fel petai’r cwestiwn wedi gofyn pa un sy’n ymddangos amlaf, a syndod mawr i mi oedd ei gael yn gywir. Felly “which animal appears most times” yw e, nid “which one looks biggest”, sef beth mae geiriad y cwestiwn wedi ei olygu i mi. Heblaw am hynny, gwych. Doh!
Show less

Alternatives to Cwis Bob Dydd